Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

11 Mawrth 2019

SL(5)353 Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Roedd Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) 2009 yn cysylltu uchafswm cyflog cynorthwywyr gwleidyddol mewn awdurdodau lleol â phwynt penodedig ar raddfa gyflog y Cyd-gyngor Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu bod uchafswm cyflog cynorthwywyr gwleidyddol yn cynyddu'n flynyddol yn unol â chodiadau cyflog y raddfa gyflog.

O 1 Ebrill 2019, bydd y Cyd-gyngor Cenedlaethol yn newid eu graddfeydd cyflog ac yn cyfuno rhai o'r pwyntiau cyflog. O ganlyniad, o 1 Ebrill 2019 ni fydd y pwynt cyflog cyfredol ar gyfer cynorthwywyr gwleidyddol yn bodoli mwyach. Mae'r Gorchymyn hwn yn alinio graddfeydd cyflog cyfredol cynorthwywyr gwleidyddol â'r raddfa gyflog newydd.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989

Fe’u gwnaed ar: 21 Chwefror 2019

Fe’u gosodwyd ar: 22 Chwefror 2019

Yn dod i rym ar: 01 Ebrill 2019

SL(5)334 – Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 9 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ("Deddf 2002").

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol sy'n nodi

-      y polisïau a'r gweithdrefnau y mae'n rhaid iddynt fod yn eu lle ym mhob gwasanaeth;

-      y safonau cymorth sydd i'w darparu;

-      gofynion penodol mewn perthynas â sicrhau bod unigolion yn ddiogel ac wedi eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol;

-      gofynion o ran staffio;

-      gofynion penodol o ran addasrwydd unigolion sy’n gweithio yn y gwasanaethau;

-      gofynion ar reolwyr;

-      gofynion mewn perthynas â monitro, adolygu a gwella ansawdd y cymorth a ddarperir; a

-      gofynion amrywiol, yn cynnwys yr angen i bob gwasanaeth gael strategaeth yn ei lle i recriwtio nifer digonol o fabwysiadwyr.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016; Deddf Mabynysiadau a Phlant 2002

Fe’u gwnaed ar: 17 Chwefror 2019

Fe’u gosodwyd ar: 19 Chwefror 2019

Yn dod i rym ar: 29 Ebrill 2019

 

SL(5)323 – Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 ('Rheoliadau 2019') yn diwygio:

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud nifer o ddiwygiadau technegol ac yn cyflwyno nifer o newidiadau i faterion sy'n ymwneud â chymorth i fyfyrwyr, ac maent yn gymwys i'r blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar 1 Medi 2019 neu wedi hynny. Yn gryno, mae'r diwygiadau a wneir gan Reoliadau 2019 yn ymwneud â:

Cynnydd i swm y Grant Myfyriwr Anabl;

Cynnydd i swm y cymorth cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyrwyr cohort 2019;

Mae swm y cymorth cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys a ddechreuodd eu cyrsiau ar 1 Medi 2012 neu wedi hynny, ond cyn 1 Awst 2019 (“Myfyrwyr Cohort 2012”) yn cael ei gynyddu bob blwyddyn er mwyn adlewyrchu'r cynnydd yn y costau byw;

Addasiad i'r cydbwysedd rhwng y grant ffioedd dysgu a'r benthyciad at ffioedd dysgu ar gyfer Myfyrwyr Cohort 2012 yn unol â'r polisi a gyflwynwyd ym mlwyddyn academaidd 2012/13;

Cymorth myfyrwyr ar gyfer plant ar eu pen eu hunain – categori newydd o gymhwysedd ar gyfer unigolion sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016;

Adolygu'r amodau cyrchfannau o ran cyrsiau yn Lloegr at ddibenion cymorth i fyfyrwyr;

Diwygiadau canlyniadol yn sgil y newid o'r System Cyd-godio Pynciau Academaidd (JACS) sy'n cael ei disodli gan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch (HECoS).

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983; Ddeddf Addysgu ac Addysg

Uwch 1998; Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

Fe’u gwnaed ar: 12 Chwefror 2019

Fe’u gosodwyd ar: 13 Chwefror 2019

Yn dod i rym ar: 08 Mawrth 2019

SL(5)331 – Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2019

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 186 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf yn cyflwyno system newydd o gofrestru gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, gan ddisodli’r un a sefydlwyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“Deddf 2000”).

Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn disodli’r system gofrestru ar gyfer darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol a nodir yn Rhannau 1 a 2 o Ddeddf 2000, sy’n cofrestru sefydliadau ac asiantaethau. Mae Deddf 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i bob lleoliad y darperir gwasanaeth gofal cymdeithasol ynddo gael ei gofrestru ar wahân.

Mae’r Ddeddf yn gweithredu dull gwahanol sy’n seiliedig ar y gwasanaeth. Rhaid i ddarparwr gofrestru â Gweinidogion Cymru er mwyn darparu unrhyw wasanaeth gofal a chymorth sy’n wasanaeth rheoleiddiedig o dan y Ddeddf a bydd y cofrestriad hwnnw yn cynnwys manylion pob un o’r lleoliadau y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddynt.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n cyfeirio, at ddibenion amrywiol, at un o’r categorïau o sefydliad neu asiantaeth a reoleiddid o dan Ddeddf 2000 er mwyn rhoi cyfeiriadau at y “gwasanaeth rheoleiddiedig” priodol o dan y Ddeddf yn lle’r cyfeiriadau hynny.

Cychwynnwyd Rhan 1 o’r Ddeddf ar 2 Ebrill 2018 mewn perthynas â’r gwasanaethau rheoleiddiedig a ganlyn—

(a)  gwasanaethau cartrefi gofal;

(b)  gwasanaethau llety diogel;

(c)  gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd;

(d)  gwasanaethau cymorth cartref.

Ar 29 Ebrill 2019, mae Rhan 1 o’r Ddeddf wedi ei chychwyn mewn perthynas â’r gwasanaethau rheoleiddiedig sy’n weddill—

(a)  gwasanaethau mabwysiadu;

(b)  gwasanaethau maethu;

(c)  gwasanaethau lleoli oedolion;

(d)  gwasanaethau eirioli (nid yw gwasanaethau eirioli wedi eu cofrestru o dan Ddeddf 2000 ar hyn o bryd).

Rhiant-Ddeddf: Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Fe’u gwnaed ar:

Fe’u gosodwyd ar: 15 Chwefror 2019

Yn dod i rym ar: